BWTHYN PLAS HAFOD - CYMRAEG

BWTHYN PLAS HAFOD

Bwthyn gwyliau mewn lleoliad gwych i fwynhau ardal Eryri ydi Bwthyn Plas Hafod.

Plas Hafod Front

Wedi ei adeiladu yn 1800au mae Plas Hafod wedi cael ei adnewyddu yn ofalus a meddylgar, mae wedi cael ei addasu a’i ddodrefnu i safon uchel iawn. Mae’r bwthyn wedi ei leoli mewn safle arbennig allan yn y wlad a mae’n llawn cymeriad. Mae’n leoliad gwych a rhamantus i gwpl sydd yn chwilio am rhywle tawel i fynd ar wyliau tra ar yr un pryd yn leoliad delfrydol i rhywun sydd eisiau mynd i gerdded/dringo neu feicio yn ardal Eryri a thu hwnt. Mae hefyd yn leoliad arbennig i deulu neu ffrindiau sydd eisiau mwynhau bod allan yn y wlad yn gwylio a gwerthfawrogi bywyd gwyllt a natur ar ei orau.

Mae’r Bwthyn bach yn ardal Nebo, sef pentref bach tawel yn Nyffryn Nantlle sydd wedi ei leoli ar ffiniau y Parc Cenedlaethol. I gerddwyr/dringwyr mae’n leoliad arbennig o hwylus gan fod bosib cychwyn eich taith gerdded i fyny Crib Nantlle yn syth o giât y Bwthyn bron.

Plas Hafod FrontMae golygfeydd godidog a bythgofiadwy i’w gweld o Plas Hafod. Yn amrywio o fryniau a mynyddoedd arbennig Gogledd Cymru, tirwedd cefn gwlad, traethau euraidd Ynys Mon ac yn wir ar ddyddiau clir gellir gweld mynyddoedd gwych Wicklow yn yr Iwerddon yn y pellter.

Mae Plas Hafod yn cynnig lleoliad arbennig mewn safle tu hwnt o gyfleus i rhywun sydd eisiau darganfod beth sydd gennym o drysorau yng Ngogledd Cymru. Ystyr yr enw Plas Hafod yn Saesneg, ydi “Summer Place”, golyga hyn le lle mae defaid yn byw yn yr haf. Mae Plas Hafod wedi ei leoli ar dyddyn Bryn Bugeiliaid, lle gwelwch ddefaid a gwartheg Cymreig yn pori o gwmpas y tyddyn mor naturiol.

Mae Plas Hafod yn cysgu 4 person, a mae’n cynnwys y canlynol:-

Stafell fyw, gyda llosgwr coed cauedig – bydd llond basged o goed wedi eu gadael i westeion.

Y Gegin, yn cynnwys popeth fydd angen arnoch i ddarparu bwyd gyda’r holl gyfleusterau modern – peiriant golchi llestri, peiriant golchi a sychwr dillad yn y sied allanol.

Pecyn Croeso – Bydd pob ymwelydd yn derbyn pecyn croeso!

Mae dwy stafell wely 1 (Super King) – Gall y gwely yma gael ei wahanu fel ei fod yn x2 wely sengl os y mynnir.

Stafell wely 2 (dwbl)

Stafell ymolchi

Mae sawl ymwelydd wedi dweud cyn gynted ag y byddant yn dod drwy giatiau Bryn Bugeiliaid mi fyddant yn aros am funud i wirioni a gwerthfawrogi’r olygfa arbennig o’u cwmpas, cyn iddynt setlo mewn i’r cartref bach cyfforddus, sydd gobeithio yn rhoi’r teimlad braf o fod adref iddynt.

Cŵn : Yn derbyn cŵn yn Plas Hafod ! 2 gi bach/canolig neu 1 ci mawr. Cost ychwanegol i’w drafod. Ni fydd yn bosibl i adael ci yn y bwthyn heb gwmni, ni chaniateir anifail anwes ar y dodrefn, yn enwedig y soffa neu wely. Bydd gwesteion yn gyfrifol am lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.

Plas Hafod Front

Mae’r Bwthyn wedi cael ei hachredu â 5* gan Croeso Cymru

Plas Hafod Front

Cysylltwch os hoffech drafod bwcio’r bwthyn am wyliau bach. Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yno.

WHICH PROPERTY WOULD YOU LIKE TO BOOK?